Lt Col Dick Goodwin i Anthea Goodwin

Bu farw fy nhad yn 1986 ac ar ôl marwolaeth fy mam yn 2003, des o hyd i gês yn cynnwys nifer fawr o lythyrau a ysgrifennwyd ganddo ef ati trwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ar 5 Mehefin 1944 roedd yn bennaeth ar Gatrawd 1 Bn y Suffolk, a oedd i lanio drannoeth ar Draeth Cleddyf, ac ysgrifennodd y llythyr atodedig. Ysgrifennodd mewn pensil (efallai y byddai angen mwyhau'r llythyr), yn mynegi ei gariad tyner tuag at fy mam cyn iddo gychwyn 'ar yr antur fawr', gan ychwanegu bod 'Pawb yn hyderus a digynnwrf iawn a'r milwyr mewn calon fawr'.

Goodwin letter 1

Er nad oedd yn llythyr, roedd hwn hefyd yn y cês: copi gwreiddiol o'r neges gan y Cadfridog Eisenhower yr oedd yn rhaid ei 'ddarllen i'r milwyr gan swyddog' cyn cychwyn ar D-Day:

Ar D+3, cafodd Dick ei glwyfo’n ddrwg, bu bron iddo golli ei fraich dde, a chafodd ei symud yn ôl i Loegr. Wedi iddo wella’n ddigonol, ysgrifennodd ati o’r ysbyty, ei lythyr dyddiedig 7 Gorffennaf 1944, yn trafod ei driniaeth ac yn dweud wrthi am y newyddion trist a gafodd am anafusion yn y bataliwn:

Yn ôl i'r rhestr