Roedd fy nhad John James Woodman, wedi colli ei fam pan oedd yn 8 oed, ei frawd pan oedd yn 12 oed a'i dad yn 15 oed, yn agos iawn at ei fodryb Alice a'i ewythr Gregory.
Bu John yn byw mewn llety yn Birmingham o 16 oed ac roedd yn dibynnu ar gefnogaeth emosiynol gan ei fodryb a'i ewythr, a oedd yn byw yn Coaley, Swydd Gaerloyw. Roedd yn 20 oed yn 1939. Cadwodd ei fodryb y llythyrau a ysgrifennodd yn ystod blynyddoedd y rhyfel a daethant ato ar ôl iddi farw yn 1966. Mae gennyf hwy i'w trysori yn awr.
Mae un o'i lythyrau cyntaf yn mynegi pryder ynghylch cael ei anfon dramor. Mae'n ysgrifennu nad yw'n gwybod i ble y bydd yn mynd, ond bod yn rhaid ei fod yn rhywle poeth, a barnu wrth y cit a roddwyd iddo. Mae llythyr arall yn anfon cyfarchion Nadolig o Ddwyrain Affrica ac yn cyferbynnu ei Nadolig yn Affrica â'r Nadolig gartref.
Mae llythyr arall yn gadael i’w fodryb a’i ewythr wybod na fydd yn hir nes y bydd yn dychwelyd i Loegr ar ddiwedd y rhyfel ac yn disgrifio llong yn mynd â rhai o’r milwyr yn ôl i Loegr gyda chanu a synau hapusrwydd yn dod o’r llong.