Olly i Harry Arthur (Bert) Kirby

Dyma un o gasgliad o lythyrau dwi wedi etifeddu oddi wrth fy nheulu. Olive ('Olly') oedd modryb fy nhad. Mae’r llythyr hwn, oddi wrth Olly at ei gŵr Bert, yn ddyddiedig 15 Ionawr 1941 pan oedd Bert yn derbyn hyfforddiant milwrol yn Gosport, Hampshire, yn dilyn ei ymrestriad i’r fyddin. Mae Olly yn cyfeirio’n helaeth at ddifrod a achoswyd yn ystod y Blitz yn Llundain i’r ardal lle’r oedd y teulu’n byw. Mae'n swnio'n frawychus ond llwyddodd Olly i ysgrifennu llawer am faterion cyffredin bywyd bob dydd. Lleolwyd cartref y teulu o tua 1900 hyd at y 1960au cynnar (pan gafodd ei ddymchwel yn ystod cyfnod o ailddatblygu mawr yn yr ardal) yn 6 Chapman Place, St George in the East, Stepney, Llundain E1. Mae cyfeiriad at “y llys” yn ymwneud â Chapman Place. Cyfeiriodd hefyd at nifer o leoliadau eraill, mwy adnabyddus, yr ymosodwyd arnynt yr un noson.

Yn ôl i'r rhestr