Pan gyhoeddwyd rhyfel ym 1939, galwyd ar bobl i 'wneud eu rhan'. Fe wnaeth y llywodraeth orfodi dynion deunaw i bedwar deg un i'r lluoedd arfog. Fodd bynnag, roedd gan y rhai a arhosodd gartref hefyd rolau hanfodol i'w chwarae. Fe wnaethant ymgymryd â gwaith rhyfel pwysig, hyn oll wrth jyglo bywyd teuluol, ymdopi â phrinder, a wynebu llawer o ansicrwydd.
Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar fywyd ar y ffrynt cartref, ac ymdrechion pobl Prydain i 'ennill y rhyfel'.
Mae’r arddangosfa ar agor 29 Mawrth – 16 Medi 2025, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10am i 5pm a 1:30 tan 5pm ar ddydd Sul.
Mae mynediad i'r amgueddfa a'r arddangosfa am ddim.