Bill Furlong i Ivy Furlong

Pan fu farw fy mam, daethom o hyd i sachau o lythyrau o'r Ail Ryfel Byd rhyngddi hi a fy nhad yn ei llofft. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi eu trawsgrifio i gyd cyn eu rhoi i Archifdy Hertford.

Ysgrifennwyd y llythyr hwn gan fy nhad ar ddiwrnod VE o Vlissingen yn yr Iseldiroedd. Bryd hynny roedd yn cael ei sensro (gan swyddog) gan nad oedd yn dal yn cael dweud wrth fy mam lle'r oedd.

Yn ôl i'r rhestr