Mae Cymdeithas Ddinesig Ironbridge a Coalbrookdale yn elusen fach leol sy’n hyrwyddo hanes yr ardal.
Rydym yn trefnu digwyddiad yn Sgwâr Ironbridge a fydd yn cynnwys byrddau arddangos i goffau’r dynion ar ein cofeb o’r Ail Ryfel Byd ynghyd â straeon amdanynt gan berthnasau yn yr ardal. Bydd straeon hefyd am filwyr a ddychwelodd. Yn ogystal, mae gwefan yn cael ei sefydlu a fydd yn sicrhau bod hyn i gyd a gwybodaeth fwy perthnasol ar gael i bawb.
Mae'r digwyddiad hwn wedi cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Telford a Wrekin.