Aros yn ddiogel

Union Flag bunting on railings

Gwybodaeth ar y diwrnod

Bydd digwyddiadau pen-blwydd Diwrnod VE yn 80 yn deyrnged deilwng i etifeddiaeth pawb a wasanaethodd.

Os byddwch yn gwylio’r digwyddiadau yn Llundain ac angen gwybodaeth neu gymorth yn ystod eich ymweliad, bydd stiwardiaid, marsialiaid a swyddogion heddlu wrth law i’ch cynorthwyo.

London tube

Gwybodaeth teithio

Gall ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol Llundain fod yn brysurach nag arfer, yn enwedig ddydd Llun 5 Mai.

Cynlluniwch ymlaen llaw a chaniatáu mwy o amser ar gyfer eich teithiau. Defnyddiwch wybodaeth amser real TfL i weld sut mae gwasanaethau'n gweithredu ar ei wefan neu drwy lawrlwytho ap TfL Go. Ystyriwch lwybrau amgen ac y gallai’r gorsafoedd neu’r arosfannau agosaf fod yn brysur iawn, yn enwedig os ydych yn teithio gyda phlant ifanc neu ag anghenion symudedd ychwanegol.

Mae gan lawer o orsafoedd London Underground lifftiau ond nid oes gan lawer ohonynt felly gwiriwch cyn i chi deithio.

Mae’n bosibl y bydd adegau a lleoedd pan fydd angen cyflwyno mesurau diogelwch tymor byr megis ciwio, newidiadau i’r ffordd yr ydych yn mynd i mewn neu’n gadael gorsaf, a chau ffyrdd. Gwrandewch am gyhoeddiadau a siaradwch â staff trafnidiaeth sydd yno i'ch helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am deithio o amgylch Llundain, ewch i tfl.gov.uk.

Police in London

Diogelwch a diogeledd

Yn y cyfnod cyn ac yn ystod y coffau, efallai y gwelwch fwy o weithgarwch heddlu nag arfer. Nid yw hyn yn ddim byd i boeni amdano, mae'r cyfan yn rhan o sicrhau y gall pawb fwynhau'r achlysur pwysig hwn yn ddiogel.

Mae gan yr heddlu brofiad o reoli digwyddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr ac maent wedi bod yn gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau a phartneriaid ers misoedd lawer i baratoi ar gyfer y coffau.

Bydd stiwardiaid a staff eraill hefyd wrth law drwy gydol y digwyddiadau i'ch helpu. Peidiwch â synnu os byddan nhw'n galw heibio i ddweud helo os ydych chi'n edrych ychydig ar goll neu angen help!

London crowd

Chwaraewch eich rhan

Rydyn ni i gyd eisiau mwynhau'r coffâd yn ddiogel. Gallwch chi chwarae eich rhan trwy aros yn effro ac ymddiried yn eich greddf. Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, dywedwch wrth staff neu swyddog heddlu. Byddant yn gwneud y gweddill. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut i riportio unrhyw weithgaredd amheus i'r heddlu yn www.gov.uk/ACT

I gael rhagor o wybodaeth am aros yn ddiogel mewn digwyddiadau, ewch i www.protectuk.police.uk