Diwrnod hwyl i'r teulu yn dathlu Diwrnod VE/VJ 80. Byddwn yn cynnal digwyddiad ddydd Sul 4ydd Mai 2025 12.00-5.00pm. Bydd gennym gerddoriaeth ac adloniant byw o'r 1940au, gyda mynediad a pharcio am ddim.
Mae ein grwpiau cymunedol yn dod at ei gilydd i gynnal amrywiaeth o stondinau, bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu hefyd. Caniateir cŵn ar dennyn, dewch gyda'ch ffrindiau a'ch teulu a blancedi picnic a dathlu'r achlysur hanesyddol hwn gyda ni.