Ysgrifennwyd y llythyr hwn gan fy mam, Veronica Moverley (née Jewell), at fy nhad John Moverley, cyn iddyn nhw briodi. Fe'i hysgrifennwyd yn y dyddiau cyn, yn ystod ac ar ôl Diwrnod VE 1945.
Roedd hi'n Deleffonydd yng Nghaerdydd ar y pryd ac roedd ef yn gwasanaethu yn yr RAF, wedi'i leoli yn Norfolk.
Ar dudalen 8, mae hi'n sôn am 'ein John', a oedd yn frawd iddi. Yn anffodus, bu farw mewn gwersyll Carcharorion Rhyfel yn Borneo, ond dim ond ar ôl Diwrnod VE y daeth y teulu i wybod hyn. Rhoddwyd y llythyr gwreiddiol i archifau Morgannaw gan fy mam. Yn anffodus, bu farw Veronica ym mis Hydref 2024.
Llythyr Moverley