Daeth merch Jeans o hyd i'r cerdyn post pan fu farw ym mis Mawrth 2014. Fe'i hanfonwyd gan y Cpl James Frank Burford-Royal Artillery at ei ddau blentyn bryd hynny, Frank a Jean. Roedden ni, sef fy nhad Frank, merch Jean, Jacoline Richards a minnau, Sharon Burford, yn meddwl tybed sut roedd James yn teimlo wrth ysgrifennu nodyn syml at ei blant o ystyried na chyrhaeddodd ei dad ei hun adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd James yn naw oed pan fu farw ei dad, Frank Burford, a oedd yn gwasanaethu yn y RASC, ar 18fed Mai 1918.
Roedden nhw'n byw yn Menin Road, Billsley, Birmingham. Gosodwyd medal marwolaeth ei dad, Frank Burford, ar silff yng nghysgodfan cyrch awyr Anderson yn eu gardd gefn a dyna'r unig beth a gadwyd yn y lloches yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn wahanol i'w dad, fe gyrhaeddodd James adref ar ddiwedd y rhyfel. Cadwodd ei fedalau mewn blwch sigâr ar y silff lle tân a gadael i'w wyrion chwarae gyda nhw. Yn anffodus bu farw cyn i'w wyrion dyfu i fyny a sylweddoli beth oedd pwrpas y medalau hyn ac ni allent ddiolch iddo am ei ddewrder a'i gyfraniad i'r Ail Ryfel Byd a'r rhyddid sydd gennym heddiw. Ni fydd byth genhedlaeth arall fel y rhai a oroesodd yr Ail Ryfel Byd.