John Moore i'w deulu

Cliriais dŷ fy Nhad ar ôl iddo farw yn 2008. Bron mai'r peth olaf a ddes i o hyd iddo oedd pecyn yng nghornel y llofft, roedd yn cynnwys 6 bwndel gyda phob llythyr a ysgrifennodd adref at ei Fam, ei Dad a'i Chwaer pan oedd yn y fyddin, o Fedi 1943 i Fedi 1947. Roedd 508 o lythyrau, nid oedd erioed wedi siarad amdanynt.

Darllenais a thrawsgrifiais nhw i gyd ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n adnabod fy Nhad yn well wedyn. Roedden nhw'n llenwi llawer o fylchau ond roedden nhw hefyd yn codi cwestiynau newydd gan fod yn rhaid iddo fod yn gyfrinachol ynglŷn â ble roedd e a beth roedd e'n ei wneud.

Mewn nodyn gyda'r llythyrau, dewisodd Dad ei lythyr Diwrnod VE ac eglurodd eu bod nhw i gyd yn flin iawn am beidio â chael dathlu. Yr unig ffordd y teimlent y gallent gwyno am yr holl ddyletswyddau a gorymdeithiau oedd rhoi hyn mewn llythyrau adref yr oeddent yn gwybod y byddai'r sensoriaid yn eu darllen!

Rydw i wedi cynnwys llun o fy Nhad, oedd yn y Royal Signals, tynnwyd y llun yn ddiweddarach ym 1945 pan oedd yn Cairo.

Moore 1

moore-2

moore-3

moore-4

Yn ôl i'r rhestr