Mae nifer o lythyrau gan Henry wedi goroesi yn y teulu ac wedi cael eu trysori ers dros 80 mlynedd. Yn ddiweddar, mae'r llythyrau wedi cael eu trosglwyddo i mi, gor-nith Henry. Gwasanaethodd Henry yn y King's Own Yorkshire Light Infantry ac roedd yn dod o Denaby Main yn Doncaster.
Mewn sawl llythyr mae Henry yn ysgrifennu adref am yr holl ddynion ifanc o Denaby sy'n ymladd ochr yn ochr ag ef yn Burma, mae'n gofyn i'w rieni roi gwybod i'r mamau eraill fod eu meibion yn iach. Mae'n dorcalonnus meddwl na ddaeth cymaint o ddynion fel Henry adref.
Rydym wedi bod yn ymchwilio i'n coeden deulu ac ynghyd â'r llythyrau hyn maent wedi dod â Henry yn fyw i ni. Gan mai dyma 80fed coffáu Diwrnod VE a VJ, roeddem yn meddwl y byddai'n deyrnged addas i Henry rannu un o'i lythyrau.