Bydd ARK, Gofod Diwylliannol Cliftonville – cyn-synagog â threftadaeth unigryw ac wedi'i leoli mewn rhan unigryw o Thanet gyda chymunedau amrywiol – yn gwahodd pobl i gyfrannu at a chymryd rhan ym mhrosiect y Gofod Rhyddid trwy adeiladu potiau plannu, plannu (gyda pherlysiau i'r gymuned eu defnyddio), a chreu mosaigau a darnau cerameg.
Drwy ei raglen wirfoddolwyr weithredol; gweithgareddau am ddim i'r gymuned Roma leol a chymunedau ffoaduriaid a mudwyr, sesiynau galw heibio wythnosol a rhaglen o weithdai i ysgolion lleol sy'n dathlu treftadaeth Iddewig; aelodau o'r mosg leol; a'r gymuned leol ehangach, bydd y prosiect hwn yn dathlu amrywiaeth y gymuned, ac ARK fel adnodd diwylliannol cynhwysol a chreadigol, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl barhau i fod yn gysylltiedig ag ARK, a'i gilydd, tra bod yr adeilad ar gau ar gyfer gwelliannau dros yr haf.