Ein Rhyddid: Bryd hynny a Nawr yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Gan weithio gyda grwpiau lleol a chymdeithasau hanesyddol, a chyda chefnogaeth gwirfoddolwyr Treftadaeth Awen, bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn casglu atgofion o gyfnod rhyfel ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd gweithdai dan arweiniad artist lleol mewn llyfrgelloedd a lleoliadau lleol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i greu gweithiau celf sy'n adlewyrchu'r straeon hyn.

Bydd y gweithgareddau cymunedol yn arwain at brif ddigwyddiad y Cofio yn Neuadd y Dref Maesteg. Bydd y digwyddiad hwn yn brofiad trochol yn seiliedig ar straeon amser rhyfel a theimladau o ryddid. Bydd y digwyddiad hygyrch hwn yn gyfle arbennig iawn i'r gymuned ddod ynghyd i nodi Diwrnod y Cofio eleni.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd