Gan weithio gydag amrywiaeth o grwpiau a chymunedau – gan gynnwys Gwasanaeth Lles Byddin Ardal y De-ddwyrain (i gynnwys plant teuluoedd milwrol yn ardal Aldershot); Gwasanaethau Gofal Integredig Farnham (i gyrraedd oedolion ynysig yn y gymuned); ysgolion cynradd ac uwchradd lleol; a chôr lleol – bydd Farnham Maltings yn gwahodd pobl leol i greu a churadu prosiect creadigol newydd sbon ochr yn ochr ag artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol a fydd yn dathlu ac yn cofio 80 mlynedd ers Diwrnod VE/VJ a'r hyn yr oedd yn ei olygu i bobl yn Aldershot a Farnham.
Bydd cyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan gerdd ysgogiadol Simon Armitage yn helpu i ddatblygu perfformiad dathlu a/neu ddigwyddiad arddangosfa i ffrindiau, teulu a'r gymuned leol yn Farnham Maltings ganol mis Tachwedd 2025.