Ein Rhyddid: Bryd hynny a Nawr yn Ymddiriedolaeth Maltings (Berwick)

Gan archwilio beth oedd diwedd yr Ail Ryfel Byd yn ei olygu bryd hynny, yn enwedig i bobl Berwick, a beth mae rhyddid a chymuned yn ei olygu i ni nawr, bydd The Maltings yn creu ffyrdd i bobl ifanc sy'n rhan o Brosiect Ieuenctid Berwick fyfyrio a bod yn greadigol gyda'i gilydd, gan helpu i lunio ymatebion artistig i archwilio beth mae rhyddid yn ei olygu i bob un ohonynt yn unigol, a gyda'i gilydd.

Drwy weithio gyda phartneriaid yn natblygiad ehangach y Barics Byw, yn bennaf Swyddfa Gofnodion Berwick, Gŵyl Lenyddol Berwick, a Chymdeithas Borderers yr Alban y Brenin ei Hun, bydd y syniadau a ddatblygwyd yn y prosiect hwn yn cael eu seilio yng ngwead a hanes y dref, gyda'r bwriad y bydd yr ymateb terfynol i'r cyhoedd yn cael ei arddangos i gynifer o bobl yn y dref â phosibl.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd