Ein Rhyddid: Bryd hynny a Nawr yn Stanley Arts

Gan weithio gyda chyfranogwyr mewn dau grŵp – pobl 16-25 oed a’r rhai dros 55 oed – o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, yn byw neu’n gweithio yn Croydon, bydd Stanley Arts yn arwain prosiect actifiaeth celfyddydol rhyng-genhedlaeth sy’n archwilio beth mae rhyddid yn ei olygu i’w gymunedau lleol. Gyda ffocws ar fwyd, sgwrs a chreadigrwydd a pherfformiad mynegiannol, bydd cyfle gan gyfranogwyr i gwrdd â phobl newydd, cael eu lleisiau wedi’u clywed, dysgu sgiliau hwyluso creadigol a thechnegau hyfforddi, cwrdd ag artistiaid, a gweithio tuag at ddigwyddiadau cymunedol cyhoeddus y byddant yn eu dylunio a’u curadu.

Bydd partneriaid yn y prosiect yn cynnwys cegin gymunedol South Norwood, Living Record (gwasanaeth cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc 14-25 oed), CAYSH (elusen sy'n cefnogi pobl ifanc agored i niwed a digartref), Care4Calais (sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn yr ardal leol), Aim Higher (elusen ieuenctid yn Croydon), Eglwys Sant Ioan, Age UK, a Fforwm BME Croydon. Bydd ysgolion lleol, canolfannau gofal dydd, a chyfranogwyr prosiectau ymgysylltu blaenorol Stanley Arts hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd