Bydd Eglwys San Pedr ar agor o 10am – 1pm ar gyfer parti te â thema'r 1940au, a chymerwch ran yn y ddwy funud o dawelwch cenedlaethol am hanner dydd wrth ein cofeb ryfel.
Mwynhewch de, coffi neu ddiodydd oer a chacennau yn ein caffi gyda cherddoriaeth o'r 1940au a gemau traddodiadol.
Rhannwch atgofion o ddyddiau a fu wrth ein bwrdd 'sgwrs atgofion' newydd gyda hen luniau/llyfrau ac ati i sbarduno sgyrsiau gyda ffrindiau newydd.
Gweler ein harddangosfa am aelodau’r eglwys na ddychwelodd byth o’r gwersylloedd carcharorion rhyfel Japaneaidd erchyll, ac y cofir am eu henwau am byth ar ein cofeb ryfel.
Cymerwch amser i fyfyrio/gweddïo’n dawel neu goleuwch gannwyll yn yr eglwys heddychlon, draddodiadol.