Ddydd Mercher 6ed Awst o 3:00 – 4:00 pm, bydd Piers Bowser yn rhoi sgwrs yn seiliedig ar ddyddiadur rhyfel cyfrinachol Capten Clarkson Blackater, Carcharor Rhyfel y Japaneaid o 1942 -1945.
Ganwyd Capten Blackater yng Nglasgow, cafodd ei gipio gan Fyddin Ymerodrol Japan ar ôl cwymp Singapore ym mis Chwefror 1942, a'i anfon i weithio ar y Reilffordd enwog o Wlad Thai i Byrma. Daeth y dyddiadur cyfrinachol a gadwodd drwy gydol ei garchariad yn sail i'w lyfr 'Gods Without Reason'.
80 mlynedd ar ôl ei ryddhau, mae ei ŵyr, Piers Bowser, yn defnyddio darnau o lyfr ei daid, ynghyd â llythyrau a cherddi preifat i ddatgelu i ba raddau y cynhaliodd cariad ei daid at ei deulu, ei famwlad a'i ffydd ef drwy ddyddiau tywyll ei gaethiwed.