Arddangosfa ar-lein newydd yw Leicester in WW2 sy’n defnyddio recordiadau o Archif Hanes Llafar Dwyrain Canolbarth Lloegr (EMOHA) i adrodd hanes pobl Caerlŷr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ddefnyddio atgofion o’r Archif, ynghyd ag amrywiaeth o ddeunydd gweledol deniadol, mae’r wefan yn darlunio bywyd yng Nghaerlŷr yn ystod y rhyfel ar y Ffrynt Cartref, ac mae hefyd yn adrodd straeon milwyr a wasanaethodd yn y fyddin dramor.
Am y tro cyntaf rydym wedi dwyn ynghyd uchafbwyntiau wedi'u golygu o fwy nag 800 o recordiadau o bobl o Swydd Gaerlŷr a Rutland. Mae gwirfoddolwyr a staff o Brifysgol Caerlŷr wedi darparu gwybodaeth gyd-destunol. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn dod â phynciau’n fyw sy’n amrywio o straeon sydd wedi’u hadrodd yn dda am y blacowt a’r dognau i hanesion newydd, unigryw o fywyd gartref ac mewn theatrau rhyfel ar draws y byd.
Ariannwyd yr EMOHA yn wreiddiol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2001 i sefydlu’r archif graddfa fawr gyntaf o gofnodion hanes llafar ar gyfer Swydd Gaerlŷr a Rutland. Mae ein casgliadau yn cynnwys archif sain BBC Radio Leicester, a llawer o gasgliadau eraill a roddwyd gan sefydliadau lleol neu unigolion o bob rhan o Ddwyrain Canolbarth Lloegr.