Yn ystod y gyfundrefn Natsïaidd, cafodd miloedd o bobl Fyddar eu sterileiddio'n orfodol yn y gred eu bod yn faich i gymdeithas a'r wladwriaeth a chyda'r disgwyl y gellid dileu anabledd mewn cenedlaethau Ariaidd yn y dyfodol. Bydd Chapter, sydd wedi'i wreiddio yng nghanol Caerdydd, Cymru, yn creu prosiect dan arweiniad pobl Fyddar sy'n anelu at fyfyrio ar yr hanes hwn a'r trawma torfol ac archwilio'n unigryw beth mae rhyddid yn ei olygu trwy lens creadigrwydd pobl Fyddar yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar eu profiadau bywyd heddiw.
Gan gomisiynu ymarferwyr Byddar sydd ar ddechrau eu gyrfa i greu gwaith sy'n ymateb i thema'r rhaglen a gweithio gyda chynulleidfaoedd Byddar sy'n aml yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan ac ymgysylltu mewn prosiectau diwylliannol, bydd canlyniadau'r prosiect yn cael eu cyflwyno yn Deaf Gathering Cymru, gŵyl greadigol fwyaf Cymru dan arweiniad y Byddar, a gynhelir yn Chapter ym mis Tachwedd 2025.