Gan weithio ar draws y sir o lyfrgelloedd yn Belper, Bolsover, Chesterfield, Ilkeston, ac Eckington, bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Threftadaeth Swydd Derby yn arwain prosiect sy'n archwilio beth mae rhyddid yn ei olygu i bobl Swydd Derby nawr, gan ddatblygu syniadau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau cymunedol creadigol a gynhelir yr hydref hwn. Bydd pob digwyddiad yn unigryw i'r dref y mae'n digwydd ynddi, gan adlewyrchu natur a threftadaeth amrywiol sir mor fawr.
Gan ddod â phobl ynghyd a chreu cysylltiadau ar draws sbectrwm eang cymunedau Swydd Derby (yn enwedig y rhai sydd fwyaf ynysig neu nad yw eu lleisiau fel arfer yn cael eu clywed), bydd y prosiect hwn yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, ac i fyfyrio mewn ffordd gadarnhaol ar y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau, a brynwyd am gost mor drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd.