Gan gydweithio'n agos ag amgueddfeydd lleol gan gynnwys Amgueddfa Heugh Battery Hartlepool, y Ganolfan Hanes Lleol a Theuluol, ac Oriel Gelf Hartlepool i sicrhau bod y syniadau a ddatblygir yn unigryw i'r dref, bydd Hybiau/Llyfrgelloedd Cymunedol Hartlepool yn arwain ar brosiect i gasglu mewnwelediad ystyrlon am y gorffennol a'r presennol, sy'n tynnu sylw at yr heriau a'r cyflawniadau sydd wedi llunio ein dealltwriaeth o ryddid dros amser.
Gan gynnwys trigolion Hartlepool o bob oed, bydd rhai o'r digwyddiadau dathlu yn rhyng-genhedlaethol, tra bydd rhai wedi'u targedu at grwpiau oedran penodol gan gynnwys plant oedran ysgol, ac oedolion ifanc a hŷn (gan gynnwys defnyddwyr llyfrgell sy'n gaeth i'w cartrefi). Bydd grwpiau eraill gan gynnwys cartrefi gofal, cyn-filwyr a'u teuluoedd, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches hefyd yn cael eu gwahodd i rannu eu profiad o ryddid a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw.