Gan weithio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys awduron; grwpiau treftadaeth, llyfrau a chrefft; a chanolfannau preswyl i gofnodi atgofion o ddathlu a rhyddid, bydd Llyfrgell Clydebank yn myfyrio ar y teimlad o ryddid a ddaeth â Diwrnod VE/VJ, ac yn gofyn beth mae rhyddid yn ei olygu heddiw. Gyda natur obeithiol, bydd arddangosfa lluniau/fideo yn cael ei chreu sy'n dangos effaith Ymosodiad Clydebank a sut mae'r dirwedd wedi gwella heddiw.
Bydd yr awdur lleol Paul Bristow yn cynnal sesiynau gydag ysgolion i edrych ar sut y dathlwyd diwedd y rhyfel, ac i gasglu barn pobl ifanc yr ardal am y presennol a'r dyfodol.