Galwch draw i weld arddangosfa o ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â Diwrnod VE sy’n dangos beth fyddai adrannau’r Llywodraeth a phersonél milwrol yn ei wneud pan fyddai heddwch yn cael ei ddatgan. Dywedwyd wrth gynghorau lleol na fyddai unrhyw wrthwynebiad i gynnau coelcerthi; byddai areithiau'n cael eu gwneud yn y Senedd a byddai'r Brenin yn darlledu i'r genedl. Gallai unedau milwrol yng ngogledd orllewin Ewrop drefnu gwasanaethau eglwysig lleol, prydau bwyd, gemau ac adloniant. Dewch i siarad â'n harbenigwyr recordiau a all roi rhywfaint o gefndir hanesyddol ac egluro pwysigrwydd Diwrnod VE.