Galwch draw i weld arddangosfa o ddogfennau gwreiddiol sy'n dangos beth fyddai adrannau'r Llywodraeth a phersonél milwrol yn ei wneud pan fyddai heddwch yn cael ei ddatgan. Dywedwyd wrth gynghorau lleol na fyddai unrhyw wrthwynebiad i gynnau coelcerthi; byddai areithiau'n cael eu gwneud yn y Senedd a byddai'r Brenin yn darlledu i'r genedl. Cynghorwyd unedau milwrol yng ngogledd orllewin Ewrop y gallai unedau drefnu gwasanaethau eglwysig, prydau bwyd, gemau ac adloniant yn lleol. Dewch i siarad â'n harbenigwyr cofnodion a all roi cefndir hanesyddol ac egluro pwysigrwydd Diwrnod VE.
Dydd Mawrth 6 Mai 2pm – 4pm yn Yr Archifau Cenedlaethol, Ruskin Avenue, Kew TW9 4DU
Rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle.