Rydym yn cynnal cyfres o foreau coffi i siarad â phobl sydd ag atgofion o 1945 a diwedd y rhyfel. Bydd y rhain yn cael eu recordio a'u huwchlwytho i'n Harchif Ddigidol i genedlaethau'r dyfodol wrando arnynt.
Mae gennym ddiddordeb mewn hanesion teuluol, a gwrthrychau ac arteffactau personol y gallwn eu ffotograffio.
Dewch draw i sgwrsio â ni – byddwn yn darparu te, coffi a chacen! Os na allwch ddod i ddigwyddiad, gallwn ddod atoch chi hefyd.
Bydd rhestr o ddigwyddiadau ym mis Mai, Mehefin, Gorffennaf ac Awst ar ein gwefan www.voicesofwar.co.uk