Penwythnos y Trallwng yn y 1940au

Dewch i ymuno â ni am 3 diwrnod o Hiraeth y 1940au, paratowch i fynd yn ôl i'r 1940au a dychmygwch eich bod mewn tref fach lle mae plant a gafodd eu symud yn cyrraedd o brif drefi diwydiannol y Gogledd Orllewin, mae milwyr yn mynd yn ôl i'r barics ar ôl bod ar wyliau, mae criwiau awyr yn mynd i feysydd awyr Swydd Amwythig. Felly yng ngeiriau'r gân “Paciwch eich problemau yn eich hen fag cit, a gwenwch, gwenwch, gwenwch.”

Anogir aelodau'r cyhoedd i ddod i'r penwythnos mewn gwisg o gyfnod Prydain yn y 1940au, boed yn filwrol neu'n sifil. Caniateir gwisgo gwisgoedd Almaenig fel rhan o arddangosfeydd hanes byw. NI chaniateir arfau tân o unrhyw fath, replica neu ddi-actifadu yng nghanol y dref.

Beth i'w Ddisgwyl: Cipolwg ysgafn ar fywyd mewn tref wledig fach yn y 1940au. Wrth i chi gerdded o amgylch y dref, byddwch yn cael eich swyno gan Ail-grewyr ac Adlonwyr mewn gwisgoedd cyfnod, arddangosfeydd cerbydau hen ffasiwn, stondinau masnach, cerddoriaeth a dawnsio; pob un â thema'r 1940au. Bydd yna hefyd gyngherddau, te traddodiadol Cymru, Pêl Blitz, awyren Spitfire, tanc, jîpiau a cherbydau milwrol eraill.

Dim ond cyngherddau/dawnsfeydd/te Cymreig sydd angen talu amdanynt ac mae'r holl adloniant stryd yn ystod y dydd am ddim.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd