Bydd ‘Chelsfield Players’ yn perfformio ‘Western Approaches’ gan Kit Barry, drama sy’n adrodd hanes The Western Approaches Tactical Unit (WATU) a grëwyd ym mis Ionawr 1942 i ddatblygu tactegau newydd i wrthsefyll ymosodiadau llongau tanfor yr Almaen ar gonfoi traws-Iwerydd. Roedd yn cael ei arwain gan y Capten Gilbert Roberts ac yn cael ei staffio'n bennaf gan Wrens. Eu prif offeryn ar gyfer astudio ymosodiadau cychod-U a datblygu gwrthfesurau oedd gemau rhyfel.
Perfformir y ddrama rhwng 5 a 7 Mehefin am 8pm yn Neuadd y Pentref, Chelsfield. Ceir rhagor o fanylion ar www.chelsfieldplayers.org