Des i o hyd i'r llythyr 20 mlynedd yn ôl wrth glirio tŷ fy mam. Yn wreiddiol, roedd fy nhad yn ffrind post i fy mam, wedi'i gychwyn gan frawd fy mam. Roedd ar un adeg yn y Kings Own Scottish Borderers, yn ogystal â Chatrawd Essex. Mae'r llythyr gan fy nhad at fy mam ynglŷn â diwrnod ym mywyd bod yn y fyddin a gorfod gyrru aelodau o'u band i glwb swyddogion. Roeddwn i'n teimlo bod y geiriad yn eithaf doniol ac, wrth gwrs, yn hen ffasiwn iawn.
Roedd fy nhad yn Trieste ar un adeg, er na chawsom wybod ganddo pa mor ddrwg oedd pethau. Fel llawer o filwyr, ni siaradodd fy nhad am y rhyfel erioed. Yr unig beth a ddywedodd oedd (efallai y bydd yn ymddangos yn rhyfedd i ni heddiw) bod y milwyr yn arfer cymryd y siocled gan y milwyr Almaenig marw a'i roi i'r plant!
Rwy'n ffodus i gael llawer o luniau ohono tra roedd yn yr Eidal, ond wrth gwrs y dirgelwch yw pwy a'u tynnodd a ble yn union yr oeddent.