Ysgrifennwyd y llythyr gan fy ewythr Ben Sawyer a oedd wrth iddo lanio ar draethau D-Day yn “dathlu” ei ben-blwydd yn 21 oed. Ysgrifennodd y llythyr at fy nhad, ei frawd, John Sawyer a oedd yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu i’r de o Monte Cassino ar ôl glanio yn Sisili fel rhan o’r 8fed Fyddin. Cafodd trydydd brawd, Charlie, ei ddal yn yr Eidal gan yr Almaenwyr a'i gadw yng ngwersyll carcharorion rhyfel yn Awstria. Derbyniodd fy nain 3 thelegram o fewn dyddiau, ond goroesodd y 3 y rhyfel. Yn y llythyr mae’n dweud wrth lanio ar y traeth iddo gael ei saethu yn ei goes ac mae’n disgrifio hwn fel yr “anrheg pen-blwydd gorau yn 21” y gallai fod wedi’i dderbyn a hoffai ddiolch i’r Almaenwr a’i saethodd. Mewn geiriau eraill er iddo gael ei anafu roedd yn mynd adref yn fyw, ni wnaeth llawer.
Cadwyd y llythyr mewn bocs o luniau, medalau, pasys, cardiau Nadolig a cherdyn adnabod gan fy nhad ac mae gen i nhw nawr yn saff. Roeddwn i'n athrawes hanes felly defnyddiais yr arteffactau am flynyddoedd lawer i geisio dod â'r digwyddiadau'n fyw.
Lluniau o lythyr yn gynwysedig a llun o fy nhad John Sawyer a dderbyniodd y llythyr gan ei frawd Ben Sawyer. Roedd y ddau yn byw yn Warrington.