Capten David Pinkney i'w deulu

Roedd fy Ewythr David yn beilot Auster. Dyddiedig 20 Awst 1944, y llythyr hwn oedd un o'r llythyrau olaf a ysgrifennodd at ei rieni a'i ddwy chwaer hŷn, un ohonynt oedd fy mam. Bythefnos yn ddiweddarach cafodd ei anafu'n angheuol mewn pentref bach yn Ffrainc rydd gan filwr Almaenig yn cuddio y tu ôl i rai coed wrth geisio dianc. Roedd David a'i yrrwr yn dod i mewn i'r pentref mewn car. Roeddent wedi cyfnewid lleoedd, roedd ef wrth y llyw tra bod ei yrrwr yn y sedd teithiwr. Ni chafodd yr olaf ei anafu ond cafodd David ei saethu yn ei wddf. Cludodd y pentrefwyr ef i ddiogelwch ond ni allent ei achub. Yn 2005, cododd yr awdurdodau lleol gofeb er anrhydedd iddo. Roedd yn un o ddim ond dau laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd i gael eu claddu yn y cyffiniau.

Cadwodd fy mam y llun yma ohono wrth ei gwely. Wrth ddidoli ei phethau ar ôl ei marwolaeth ym 1998, daeth fy mrodyr a chwiorydd o hyd i'r llythyr yma ymhlith llawer o rai eraill yr oedd wedi'u hysgrifennu at y teulu yn ystod ei hyfforddiant a phan gafodd ei leoli yn Ffrainc. Maen nhw'n sôn am ei fywyd fel peilot, ei gariad at hedfan ac at fywyd, am ei deulu, ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, y ferch yr oedd yn gobeithio ei phriodi…

Yn ôl i'r rhestr