Anfonwyd y llythyr gan fy nhad at fy mam cyn iddyn nhw briodi. Roedd e rywle yn Ffrainc ar adeg ysgrifennu 28/8/1944. Cadwodd fy mam yr holl lythyrau a ysgrifennodd ati a daethom o hyd iddyn nhw wrth helpu i roi trefn ar ei fflat ychydig flynyddoedd yn ôl.
Priodwyd hwy yn ystod y rhyfel ac yn fuan wedyn cafodd ei anfon i India lle arhosodd am ddwy flynedd.
Ar ôl iddo ddychwelyd fe wnaethon nhw ymgartrefu yn Dorset a chael dwy ferch. Maen nhw ill dau wedi marw erbyn hyn ond wedi mwynhau bywyd hir a hapus gyda'i gilydd.