Harry Langford at ei wraig Eileen

Ysgrifennwyd y llythyr ar 19 Mehefin 1944 gan fy nhad at fy mam. Mae'n disgrifio ei brofiad o Ddydd D ar fwrdd HMS Nith. Roedd yn Delegraffydd Blaenllaw yn arwain tîm yn rheoli'r llong lanio ar gyfer traeth Gold (Jig). Yn ddiweddarach, cymerodd ei long reolaeth dros longau i harbwr Mulberry ac ar 24 Mehefin lladdwyd ef a'i dîm mewn brwydr yn dilyn ymosodiad awyr.

Fe wnes i ddod o hyd i'r llythyr ynghyd â'i holl lythyrau adref o 1939, wrth glirio ei thŷ yn dilyn ei marwolaeth. Roedd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i amser ar y môr yn hebrwng confois o India i Dde Affrica ac yna yn yr Iwerydd, gan gynnwys goresgyniad Gogledd Affrica.

Langford p1

Langford p2

Langford p3

Langford p4

Yn ôl i'r rhestr