Henry Rose at ei wraig Gladys

Anfonwyd y llythyr at fy nain gan ei gŵr Henry a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd ym mis Mai 1943. Roedd ar symudiadau yn y Fforest Newydd pan gwympodd pont wrth i gludwr gynnau Bren groesi'r afon. Glaniodd y cerbyd wyneb i waered yn yr afon, ac unwaith y codwyd y cludwr a rhyddhau'r dynion daeth yn amlwg, yn anffodus, fod Henry wedi boddi.

Fe ddaethon ni o hyd i'r llythyr hwn mewn blwch atgofion, roedd fy Mam-gu wedi cadw llawer o bethau cofiadwy o'i hoes. Gan gynnwys y llythyr hwn a llawer o ohebiaeth a thoriadau papur newydd ynglŷn â'r rhan hon o'i bywyd.

Yn ôl i'r rhestr