Maurice Morgan i Nellie Morgan

Roedd fy Nhaid yn cadw llawer o lythyrau am ei amser yn y rhyfel, yn saff mewn bocs i ddangos i ni wyrion ac wyresau pan oedden ni’n ddigon hen i ddeall beth aeth drwyddo.

Carcharor rhyfel yn Burma oedd Taid (Mr Maurice Morgan), a dyma rai o'i lythyrau adref at ei fam Nellie Morgan.

Cymerwyd ef yn Garcharor ar 15 Chwefror 1942 yn Singapore. Rhyddhawyd yn 1945.

Treuliodd 3 blynedd yn gweithio ar reilffordd marwolaeth Burma/Siam yn byw ar ychydig iawn o fwyd, ac yn cael ei guro dro ar ôl tro.

Bu'n rhaid iddo gerdded 10 milltir rai dyddiau yn union i'r man lle'r oeddent yn gweithio'r diwrnod hwnnw, yna gwneud diwrnod llawn o lafur caled yn torri coed i lawr yn lleithder uchel y goedwig, yna cerdded 10 milltir yn ôl i'r gwersyll.

Y cwbl oedd yn rhaid ei fwyta oedd llond llaw o reis.

Morgan

Morgan

Welcome home - MOrgan

Morgan - HRH message

Yn ôl i'r rhestr