Mae’r rhain yn rhan o gasgliad o gannoedd o lythyrau a anfonwyd gan fy mam, Rachel Haydon at ei gŵr, yr Uwchgapten Henry Haydon a oedd wedi’i leoli yng Ngogledd Affrica ac yn ddiweddarach yn yr Eidal – a’i lythyrau ati. Dechreuodd yr ohebiaeth ym mis Mai 1941 a pharhaodd hyd fis Tachwedd 1945. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth ei fam, ei fam-yng-nghyfraith a'i ferched bach yn ogystal ag amryw o gyfeillion a pherthnasau eraill. Maent yn cynnwys cyfeiriad at frawd fy mam, Paul Cash, a laddwyd yn Ffrainc ym mis Gorffennaf 1944.
Mae'r llythyr hwn, sef tudalen gyntaf llythyr hirach yn dweud wrth un o'r lleianod oedd yn eu dysgu, a thelegram y Nadolig, oddi wrth fy chwaer Anne, y plentyn hynaf yn y teulu a'i chwaer nesaf Gaie. Cyfeirir at enedigaeth eu chwaer ieuengaf Kyra yn 1943 mewn rhai o'r llythyrau cynnar. Ni allai gwrdd â'i thad tan 1945 pan oedd yn ddwy oed. Ganed fy mrawd a minnau ar ôl y rhyfel pan oedd bywyd yn wahanol iawn.