I George Henry 'Bill' Korten oddi wrth ei fam

Dyma lythyr gan fam (fy nain) at Bill, un o’i 5 mab, pob un ohonynt oddi cartref yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cadwyd casgliad cyfan o lythyrau adeg y rhyfel gan yr unig chwaer i’r 5 dyn a throsglwyddwyd y rhain i mi ar ôl marwolaeth ei merch yn ddiweddar. Mae’r llythyr hwn yn ddyddiedig 14 Ebrill 1941 yn ystod Blitz Llundain. Roedd fy nheulu yn byw yn East End Llundain ac mae’r llythyr yn sôn am y cyrchoedd awyr. Gan nad wyf wedi gallu cael copïau o gofnod gwasanaeth Bill nid wyf yn gwybod lle yr oedd yn 1941 ond mae'r llythyr - a'i amlen - yn awgrymu efallai ei fod bryd hynny wedi bod yn hyfforddi ym Mhrydain. Gwasanaethodd fel Crefftwr yn REME 28 LAA Regt 4th Corps, 14th Army a threuliodd amser yn ‘sownd’ (yn yr hyn a elwir yn ‘Forgotten Army’) yn Burma (Myanmar bellach) ar ddiwedd y rhyfel.

Mae cyfeiriad ar ddechrau'r llythyr at 'ewythr' yn cyfeirio at fy hen-ewythr Luder 'Jack' Korten. Roedd yn wneuthurwr esgidiau a gwnaeth yn dda iawn yn ei yrfa. Almaenwyr oedd ei rieni (fy hen daid a nain), daethant i Lundain yn y 1860au, a ganed Jack yn Nwyrain Llundain yn 1885. Gwasanaethodd yn y Middlesex Regiment trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf fel crydd/trwsiwr, gan aros ym Mhrydain oherwydd ei wreiddiau teuluol. Yn yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel warden cyrch awyr a chafodd ei ladd mewn cyrch awyr enfawr dim ond 3 diwrnod ar ôl i'r llythyr hwn gael ei ysgrifennu.

Collodd fy nain 3 o’i hanwyliaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd – un mab, ei brawd yng nghyfraith Jack, a’i gŵr, Johann Henrich Korten (a adwaenid fel John Henry Korten) yr achoswyd ei farwolaeth gan ddamwain drasig yn 1946. Roedd ei feibion i gyd yn dal i ffwrdd o gartref yn y Lluoedd Arfog ar y pryd.

Yn ôl i'r rhestr