Mae ffilm y National Theatre ac Imperial War Museums yn dod â straeon yr Ail Ryfel Byd i genhedlaeth newydd fel rhan o gynlluniau Diwrnod VE 80

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi rhaglen o weithgareddau i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE.

Yn ogystal â phedwar diwrnod o ddigwyddiadau a dathliadau i goffáu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys ffilm newydd gan y Theatr Genedlaethol, galwad genedlaethol i’r cyhoedd chwilio am lythyrau a ysgrifennwyd yn ystod y rhyfel, profiad AR trochi ac adnoddau i bob ysgol yn y wlad.