Diwrnod VE

Mae dydd Iau 8 Mai 2025 yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE (Victory in Europe) pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop.

Arweiniodd y newyddion hir ddisgwyliedig at ddathliadau digymell yn torri allan ar draws y wlad. Cyhoeddwyd gwyliau cenedlaethol a daeth pobl o bob cefndir at ei gilydd i nodi'r foment.

Ni ddaeth y rhyfel yn y Dwyrain i ben tan 15 Awst 1945, pan ildiodd Japan. Dathlwyd y diwrnod ar draws y byd fel 'Victory over Japan' (Diwrnod VJ).

Mae 80 mlynedd ers Diwrnod VE yn amser i genedl ddod at ei gilydd i ddysgu am straeon y rhai a wasanaethodd a chenhedlaeth y Diwrnod VE, o’r milwyr a ymladdodd, i’r plant a gafodd eu gwacáu, a menywod ar y ffrynt cartref.

I nodi’r pen-blwydd arwyddocaol hwn, bydd digwyddiadau a gweithgareddau Diwrnod VE 80 yn cael eu cynnal ledled y wlad. Darganfyddwch sut y gallwch chi cymryd rhan a thalu teyrnged.